Acts 21:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can lefain, Ha‐ wyr yr Israel cymporthwch: hwn ywr dyn ys ydd yn dyscy pawp ym‐pop lle yn erbyn y popul, a’r Ddeddyf, a’r lle yma: eb law hyny, e dduc Groec wyr ir Templ, ac a halogawð y lle sanct aidd hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dodasant eu dwylaw arno, dan waeddi, Gwŷr Israeliaid, cynnorthwywch. Hwn yw’r dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl a’r Gyfraith a’r lle hwn; ac, heblaw hyny, Groegiaid a ddug efe i mewn i’r deml, ac halogodd y lle sanctaidd hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan weiddi, “Wŷr Israel, help! Hwn yw’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman yn erbyn y Bobl a’r Ddeddf a’r Lle hwn; mwy na hynny, hyd yn oed Groegiaid a ddug ef i mewn i’r Deml, a halogi’r Lle santaidd hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma'r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i'r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a'n Cyfraith ni, a'r Deml yma! Ac mae wedi halogi'r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan weiddi, "Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan waeddi, O wyr Israel, cynorthwywch: hwn yw y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob man yn erbyn y Bobl a'r Gyfraith a'r Lle hwn; yn mhellach, dygodd y Groegiaid hefyd i'r Deml, ac y mae wedi halogi y Lle Sanctaidd hwn.