Acts 21:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ymðangos o ynys Cyprus, ni hei gadasam ar y llaw aswy, ac a hwyliasam tu a Siria, ac a diriasam yn‐Tyrus: o bleit yno y dilwythwyrhwyt y llong.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cael golwg ar Cuprus a’i gadael ar y llaw aswy, hwyliasom i Suria, a thiriasom yn Turus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho ei llwyth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi cael cipolwg ar Gyprus gadawsom hi ar yr aswy, a ni’n hwylio i Syria, a thiriasom yn Nhyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho’i chargo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a'i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i'r de o'r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni'n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi cael golwg ar Cyprus, a'i gadael hi ar y llaw aswy, hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.