Acts 21:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cyffrowyt yr oll ddinas, ac y rreddodd y popul yn‐cyt: ac a ymavlesont ym‐Paul, ac ei tynnesont allan o’r Templ, ac yn y man y caewyt y drysae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chynhyrfwyd y ddinas oll, a bu cyd-rediad y bobl. Ac wedi cymmeryd gafael ar Paul, llusgasant ef i’r tu allan o’r deml; ac yn uniawn y cauwyd y drysau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyffrowyd yr holl ddinas, ac ymdyrru a wnaeth y bobl, ac wedi ymaflyd ym Mhaul fe’i llusgent tu allan i’r deml, ac yn union fe gaewyd y drysau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chynhyrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynasant ef allan o'r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r cynnwrf yn lledu drwy'r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw'n gafael yn Paul a'i lusgo allan o'r deml, ac wedyn cau'r giatiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyffrowyd yr holl ddinas, a rhuthrodd y bobl ynghyd. Cymerasant afael yn Paul, a'i lusgo allan o'r deml, a chaewyd y drysau ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chynhyrfwyd y Ddinas oll, a'r bobl a redasant ynghyd; ac wedi ymaflyd yn Paul, hwy a'i llusgasant ef tu allan i'r Deml: ac yn y man y cauwyd y drysau.