Acts 21:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yna y daeth y pen‐Captaen yn nes ac y daliodd ef, ac a ’orchymynawdd ei rwymo a dwy catwyn, ac a holodd pwy yt oedd ef, a ’pha beth a wnaethoedd oedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, wedi nesau o hono, y milwriad a ymaflodd ynddo ac a orchymynodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna fe ddynesodd y capten, ac ymaflyd ym Mhaul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn; a holai pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneuthur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i'r dyrfa pwy oedd, a beth oedd wedi ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth y capten atynt, a chymryd gafael yn Paul, a gorchymyn ei rwymo dwy gadwyn. Dechreuodd holi pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr agoshaodd y Milwriad, ac a'i daliodd ef, ac a orchymynodd ei rwymo â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy allai fod, a pha beth oedd wedi ei wneyd.