Acts 21:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei a lefynt vn peth, ereill beth arall, ym‐plith y popul. Velly pryd na vedrei ef wybot crynodab rac y dervisc, e ’orchymynawdd ei dywys ir castell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod sicrwydd o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i’r castell.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bloeddient hyn ac arall yn y dyrfa; a chan na allai gael gwybod yn sicr oherwydd y dwndwr gorchmynnodd ei ddwyn i’r castell.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi'n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma'r capten yn gorchymyn i'r milwyr fynd â Paul i'r barics milwrol yn Antonia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhai yn y dyrfa yn bloeddio un peth, ac eraill beth arall. A chan na allai ddod o hyd i'r gwir oherwydd y dwndwr, gorchmynnodd ei ddwyn i'r pencadlys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod yn sicr o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i'r gwersyll‐dy.