Acts 21:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddechreuit arwein Paul ir castell, e ðyvot wrth y pen‐Captaen, A alla vi gahel ymðiddam a thi? Yr hwn a ddyvot, A vedry di g roec?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ar fedr ei ddwyn i mewn i’r castell, Paul a ddywedodd wrth y milwriad, A ganiatteir i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, Ai Groeg a fedri?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd ar ei ddwyn i mewn i’r castell, fe ddywed Paul wrth y capten, “A gaf fi air gennyt?” Eb yntau, “A fedri di Roeg?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i'r barics pan ofynnodd i'r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di'n siarad Groeg?” meddai'r capten wrtho,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd ar fin cael ei ddwyn i mewn i'r pencadlys, dyma Paul yn dweud wrth y capten, "A gaf fi ddweud gair wrthyt?" Meddai yntau, "A wyt ti yn medru Groeg?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe ar gael ei arwain i'r gwersyll‐dŷ, Paul a ddywed wrth y Milwriad, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?