Acts 21:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d ty di yw ’r Egyptian, yr hwn o vlaen y dyddiae hynn a gyffroeist dervysc, ac a arweneist ir diffeith vvch pedeirmil o wyr llofryddiawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid tydi, gan hyny, yw’r Aiphtiwr, yr hwn cyn y dyddiau hyn a gyfododd derfysg, ac a ddug allan i’r anialwch bedair mil o ddynion o’r llofruddion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid tydi felly yw yr Eifftiwr, a gododd derfysg cyn y dyddiau hyn, ac a ddug allan i’r diffeithwch y pedair mil dagerwyr?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i'r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Onid ti ydy'r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedwar mil o aelodau'r grŵp terfysgol ‛y Sicari‛ i'r anialwch?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid tydi felly yw'r Eifftiwr a gododd derfysg beth amser yn l ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o derfysgwyr arfog?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid tydi, ynte, yw yr Aiphtiwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gododd wrthryfel ac a arweiniodd i'r anialwch y pedair mil o'r Brad‐lofruddiaid?