Acts 21:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yna y dyvot Paul, Yn ddiau, gwr wy vi o Iuddew, a’ dinesyð o Tarsus, dinas nid anenwoc yn Cilicia, ac atolwc yty, goddef ymy amadrodd wrth y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Paul, Myfi wyf Iwddew, o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog, a deisyfiaf arnat, ganiattau i mi lefaru wrth y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd Paul, “Gŵr o Iddew wyf fi, o Darsus yng Nghilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac atolwg i ti, caniatâ i mi lefaru wrth y bobl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i'n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â'r bobl yma os gweli di'n dda?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Paul, "Iddew wyf fi, o Darsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac 'rwy'n erfyn arnat, caniat imi lefaru wrth y bobl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond dywedodd Paul, Myfi yn wir wyf ddyn o Iuddew, o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog yn Cilicia; ond deisyfaf arnat ti, caniata i mi lefaru wrth y bobl.