Acts 21:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy i ni gaffael discipulon, ny ni a drigesam yno saith di ernot. Yr ei y ddywed e sant i Paul trwy ’r Yspryt, na d elei i vyny dd i Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cael y disgyblion, arhosasom yno saith niwrnod; a hwy a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, beidio a myned i fynu i Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i ni gael y disgyblion arosasom yno saith niwrnod; a hwythau, dywedyd yr oeddynt wrth Baul trwy yr Ysbryd am beidio â rhoi ei droed yng Nghaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daethon ni o hyd i'r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw'n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw'n ei broffwydo drwy'r Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio mynd ymlaen i Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod o hyd i'r dysgyblion, arosasom yno saith niwrnod: a'r cyfryw rai a ddywedasent i Paul, trwy yr Yspryd, beidio myned o hono i'r lan i Jerusalem.