Acts 21:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy daroedd iddaw ganiady, y safawdd Paul ar y grisiae, ac a amnaidiawdd a llaw ar y popul: a’ gwedy gwneythy gostec vawr, y llavarawdd wrthynt yn y tavot Hebreo, gan ðywedyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi caniattau o hono, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â’i law ar y bobl; a distawrwydd mawr wedi ei wneuthur, llefarodd yn iaith yr Hebreaid, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ganiatau, safodd Paul ar y grisiau ac amneidiodd â’i law ar y bobl, ac wedi iddo gael distawrwydd mawr fe’u hanerchodd yn yr iaith Hebraeg, gan ddywedyd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan roedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddo gael caniatd, safodd Paul ar y grisiau, a gwnaeth arwydd 'i law ar y bobl, ac ar l cael distawrwydd llwyr anerchodd hwy yn iaith yr Iddewon, gan ddweud:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ganiatâu, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â'i law ar y bobl; ac wedi cael dystawrwydd dwfn, efe a lefarodd yn y briod‐iaith Hebraeg, gan ddywedyd,