Acts 21:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol gorphen yr dyddiae hyny, ni a dynasam, ac aetham ymaith, ac wynt hvvy oll a’ei gwragedd a’ei plant an hebryngesant yd y n y d aetham allan o’r dinas: ac estyngesam ar ein gliniae ar y lann ac a weddiasam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan fu i ni gyflawni’r dyddiau, wedi myned allan aethom ein ffordd, yn cael ein hebrwng gan bawb, ynghyda’ r gwragedd a’ r plant, hyd tu allan i’r ddinas; ac wedi dodi ein gliniau ar y traeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wedi i ni orffen y dyddiau, aethom ymaith ar ein taith, a hwynt oll ynghyd â gwragedd a phlant yn ein hebrwng hyd y tu allan i’r ddinas; a phenlinio a wnaethom ar y traeth, a gweddïo,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â'r gwragedd a'r plant, a'n hebryngasant ni hyd allan o'r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi'n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i'r traeth gyda ni i ffarwelio — hyd yn oed y gwragedd a'r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan ddaeth ein dyddiau yno i ben, ymadawsom ar ein taith, a phawb ohonynt, ynghyd 'u gwragedd a'u plant, yn ein hebrwng i'r tu allan i'r ddinas. Aethom ar ein gliniau ar y traeth, a gweddo,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddarfu i ni gyflawnu y dyddiau, ni a ymadawsom ac a gychwynasom, a phawb, ynghyd a gwragedd a phlant, yn ein hebrwng, hyd tu allan i'r ddinas; ac wedi myned ar ein gliniau ar y traeth, a gweddio, ni a ganasom yn iach i'n gilydd.