Acts 21:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol i ni gorphen hwyliaw o ywrih Tyrus, y descenasam yn Ptolomais, ac a gyfarchasam‐well ir broder, ac a drigesam vn diernot y gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A nyni, wedi gorphen hwylio o Turus, a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arhosasom un diwrnod gyda hwynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwblhau’r fordaith a wnaethom ninnau, a chyrraedd o Dyrus i Ptolemais; ac wedi i ni gyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A nyni wedi gorphen ein mordaith, o Tyrus ni a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.