Acts 22:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedais i, Pa beth a wnaf Arglwydd? A’r Arglwydd a ddyvot wrthyf, Cyvot, a’ does y Ddamasco: ac yno y manegir y‐ty am pop peth a ordeiniwyt yty yw wneythyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wedi cyfodi, dos i Damascus, ac yno wrthyt y lleferir am yr holl bethau yr appwyntiwyd i ti eu gwneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cyfod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt am bob peth yr ordeiniwyd i ti ei wneuthur.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i'w wneud.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedais, 'Beth a wnaf, Arglwydd?' Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, 'Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i Damascus, ac yno y dywedir i ti ynghylch yr holl bethau sydd wedi eu penodi i ti eu gwneuthur.