Acts 22:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt na vedrwn‐welet gan ’ogoniant y golauni hwnw, im tywysit erbyn v y llaw y gan yr ei oedd gyd a mi, ac a ddaethym i D d amasco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan na welwn gan ogoniant y goleuni hwnw, gan fy nhywys erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, y daethum i Damascus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan na welwn ddim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe’m dygwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y Goleuni hwnw, gan gael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, daethum i Damascus.