Acts 22:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn Ananias gwr dwywol, herwyð y Ddeðyf ac iðo testolaeth da y gan yr oll Iuðeon oedd yn preswiliaw yno,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac un Ananias, gŵr defosiynol yn ol y Gyfraith a thystiolaeth iddo gan yr holl Iwddewon, oedd yn preswylio yno,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyw Ananias, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, ac iddo air da gan yr holl Iddewon a drigai yno, a ddaeth ataf,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a'r oeddynt yn preswylio yno,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Daeth dyn o'r enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchu'n fawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Daeth rhyw Ananias ataf, gu373?r duwiol yn l y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw Ananias, gwr bucheddol yn ol y Gyfraith, a thystiolaeth dda iddo gan yr holl Iuddewon oedd yn preswylio yno,