Acts 22:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Dew ein tadae a racordeniodd yty, gael gwybot y veddwl ef, a’ gwelet y Cyfiawn hwnw, a’ chlywet y lleferydd ei enae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau a’th appwyntiodd i wybod Ei ewyllys, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o’i enau Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yntau: ‘Duw ein tadau a’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ac i weled yr un Cyfiawn ac i glywed llef o’i enau ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yntau: 'Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Duw ein Tadau ni a'th benododd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o'i enau ef: