Acts 22:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny paam y trigy? Cyvot, a’ baddier di, a’ golch ymaith dy bechotae, gan ’alw ar Enw yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, paham yr oedi? Cyfod: bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar Ei enw Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, a bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, cymer dy fedyddio, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei Enw Ef.