Acts 22:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ y welet ef yn dywedyt wrthyf, Bryssia, a’ thyn ymaith ar ffrwst ymaes o Gaerusalem: can na dd erbyniant dy destoliaeth am danaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr oeddwn mewn llewyg, ac y gwelais Ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos allan, ar frys, o Ierwshalem, canys ni dderbyniant dy dystiolaeth di am Danaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’i weled ef yn dywedyd wrthyf, ‘Brysia, a dos yn glau allan o Gaersalem, oherwydd ni dderbyniant gennyt ti dystiolaeth amdanaf fi.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di'n ei ddweud amdana i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i weld ef yn dweud wrthyf, 'Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos yn glau allan o Jerusalem, o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi.