Acts 22:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyweis inef, Arglwydd, h wy a wyddant vy‐bot i yn carchary, ac yn bayddy ym‐pop Synagog yr ei a gredent yno ti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac myfi a ddywedais, Arglwydd, hwy a wyddant mai myfi oeddwn yn carcharu ac yn curo ymhob sunagog y rhai a gredent Ynot;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedais innau, ‘Arglwydd, gwyddant hwy mai myfi oedd yn carcharu ac yn fflangellu, o synagog i synagog, y rhai a gredai ynot ti;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedais innau, 'Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A minau a ddywedais, Arglwydd, y rhai hyn a wyddant mai myfi oedd yn carcharu ac yn curo yn mhob Synagog y rhai sydd yn credu ynot Ti.