Acts 22:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywsant mae yn y tavot Hebreo ydd oedd ef yn llavaru wrthynt, mwy o ’ostec a roddesont, ac ef ddyvot,)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed mai yn iaith yr Hebreaid y llefarai wrthynt, mwy y gwnaethant osteg, ac ebr efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan glywsant mai yn yr iaith Hebraeg yr oedd yn eu hannerch, rhoesant dawelwch mwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywon nhw Paul yn siarad Hebraeg dyma nhw'n mynd yn hollol dawel. Yna meddai Paul wrthyn nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi clywed mai yn y briod‐iaith Hebraeg y llefarai wrthynt, hwy a roisant fwy o lonyddwch.