Acts 22:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddinëit gwaet dy verthyr Stephan, ydd oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac a gydsynnyais aei varwolaeth, ac a gedwais ðillat yr ei oeð yn y llað ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan dywalltwyd gwaed Stephan, Dy ferthyr, minau hefyd oeddwn yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynied, ac yn cadw cochlau y rhai yn ei ladd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan oeddid yn tywallt gwaed Steffan, dy ferthyr, yr oeddwn i fy hun yn sefyll yn ymyl, ac yn cymeradwyo, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdai.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy dyst ti, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.