Acts 22:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y gorchymynawdd y pen‐Captaen vynet ac ef ir castell, ac archodd ei yskyrsio, a’ ei holi, er mwyn iddo gael gwybot am pa achos, y llefent velly arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thaflu llwch i’r awyr, gorchymynodd y milwriad ei ddwyn ef i’r castell, gan orchymyn ei holi ef gyda fflan-gellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly yn ei erbyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gorchmynnodd y capten ei ddwyn i mewn i’r castell, gan ddywedyd am ei holi ef trwy fflangellu, er mwyn cael gwybod am ba reswm y llefent felly yn ei erbyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn i'r barics i gael ei groesholi gyda'r chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gorchymynodd y Milwriad ei ddwyn ef i'r Gwersyll‐dy, gan orchymyn ei holi ef trwy fflangellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly ei erbyn.