Acts 22:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrth y rwymo ef a chareiae, y dyvot Paul wrth y Canwriat, oedd yn sefyll gerllaw, Ai cyfreithlawn i chwi yskyrsio vn ’sy yn Ruueinwr ac eb ei varny?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan rwymasant ef â’r carreiau, wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw y dywedodd Paul, Rhufeiniad, ac heb ei gondemnio, ai cyfreithlawn i chwi ei fflan-gellu?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan estynasant ef â’r careiau, dywedodd Paul wrth y canwriad a safai ger llaw, “Ai rhydd i chwi fflangellu dyn sydd yn Rhufeiniwr, a heb ei farnu?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, "A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi ei gylymu ar gyfer y fflangell, dywedodd Paul wrth y Canwriad oedd yn sefyll gerllaw, A'i cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn sydd Rufeiniwr, ac heb ei gondemnio?