Acts 22:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu y Cannwriat, ef aeth, ac a vanagawð wrth y pen‐Captaen, gan ðywedyt, Gwyl beth a wnelych: can ys Ruuenydd yw ’r dyn hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, y canwriad, wedi myned at y milwriad, a fynegodd, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ar fedr ei wneuthur; canys y dyn hwn, Rhufeiniad yw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan glywodd y canwriad, aeth at y capten, ac fe’i mynegodd iddo, gan ddywedyd, “Beth yr wyt ti am ei wneuthur? Rhufeiniwr yw y dyn yma.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw'r dyn hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, "Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r Milwriad, gan ddywedyd, Beth yr wyt ar fedr ei wneuthur? canys Rhufeiniwr yw y dyn hwn.