Acts 22:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r pen‐captaen a attebawdd, A swm p mawr y daethym i y gael vwrdeisiaeth hon. Ac Paul a ddyvot, Eithyr velly im ganet i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attebodd y milwriad, Myfi â swm mawr a gefais y ddinas-fraint hon. A Paul a ddywedodd, Ac myfi a anwyd felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd y capten, “A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon.” Ac ebe Paul, “Minnau, fe’m ganed â hi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i'r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten. “Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y capten, "Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon." Ond dywedodd Paul, "Cefais i fy ngeni iddi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Milwriad a atebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas‐fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, Ond myfi a anwyd iddi.