Acts 22:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno eb ’ohir ydd ymadaosont ac ef, yr ei oedd ar vedr ei holi ef. A’r pen‐Captaen hefyt a ofnawð, gwedy ei gwybu mae Runeinwr oedd ef, a’ chan ddarvot iddo ei rwymo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn uniawn, gan hyny, y safodd oddi wrtho y rhai ar fedr ei holi ef; a’r milwriad hefyd a ofnodd, pan wybu mai Rhufeiniad ydoedd, ac am iddo ei rwymo ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn union gan hynny fe ymneilltuodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi; ac ofnodd hyd yn oed y capten, pan wybu mai Rhufeiniwr oedd, a’i fod yntau wedi ei rwymo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a'r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai oedd yn mynd i'w groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ebrwydd gan hyny y ciliodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef, a'r Milwriad hefyd a ofnodd pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniwr, a'i fod ef wedi ei rwymo.