Acts 22:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwr yn ddiau yw vi, o Iddew, a’r anet yn‐Tarsus yn Cilicia, anid wedy’r vaethddrin yn y dinas hon wrth draet Gamaliel, ac wedy ’r addyscy yn ol perfeith Deddyf y Tadae, ac oeddwn vawr vy‐goglyt ar Ddew, val ac ydd ych chwi theu oll y dydd heddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi wyf Iwddew, wedi fy ngeni yn Tarsus o Cilicia, wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy athrawiaethu yn ol manylrwydd Cyfraith ein tadau, yn selog dros Dduw, fel y mae pawb o honoch chwi heddyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Gŵr o Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus Cilicia, wedi fy nghodi yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ôl manylrwydd Cyfraith y tadau, yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond ces i fy magu yma yn Jerwsalem. Bues i'n astudio Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl dan yr athro Gamaliel. Roeddwn i'n frwd iawn dros bethau Duw, yn union fel dych chi yma heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn l llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd, Myfi wyf wr o Iuddew, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, wedi fy meithrin yn y Ddinas hon, wedi fy egwyddori wrth draed Gamaliel yn ol manyldeb Cyfraith ein Tadau, o'r dechreu yn un selog dros Dduw, fel, yr ydych chwithau oll heddyw: