Acts 22:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thranoeth, erwydd y vot ef yn ewyllysio gwybot diogelrwydd, am pa am y cyhuddit ef gan yr Iuddaeon, ef ei gellyngawdd yn rhydd o rhwymae, ac a ’orchymynawdd bot ir Archoffeiriait a’r oll Cyccor ddyvot ynghyt: ac ef a dduc Paul ac ei gosodawdd ger y bron h wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth, gan chwennychu gwybod y sicrwydd o ba beth y cyhuddid ef gan yr Iwddewon, gollyngodd ef yn rhydd; a gorchymynodd ddyfod ynghyd o’r archoffeiriad a’r holl gynghor, ac wedi dwyn Paul i wared, gosododd ef ger eu bron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrannoeth, ac ef yn dymuno gwybod yn sicr pa gyhuddiad, a ddygid gan yr Iddewon fe’i gollyngodd ef, a gorchmynnodd i’r Archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin ymgynnull, ac fe ddug Paul i lawr, a’i osod ger eu bron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r archoffeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma fe'n gollwng Paul yn rhydd o'i gadwyni, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, a'i osod i sefyll o'u blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, gan fod y capten am wybod yn sicr beth oedd cyhuddiad yr Iddewon, fe ollyngodd Paul yn rhydd, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin ymgynnull. Yna daeth ag ef i lawr, a'i osod ger eu bron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iuddewon, efe a'i gollyngodd yn rhydd, ac a orchymynodd i'r Arch‐offeiriad a'r holl Sanhedrin ddyfod ynghyd, ac wedi dwyn Paul i waered, efe a'i gosododd ger eu bron.