Acts 22:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi erdlidiais y ffordd hon yd angae, gan rwymo a’ pheri rhoi a’ gwyr a’ gwragedd yn‐carchar,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y Grefydd hon a erlidiais i hyd angau, gan rwymo a thraddodi i garcharau ddynion a gwragedd hefyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
erlidiais y Ffordd hon hyd angau, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bues i'n erlid y rhai oedd yn dilyn y Ffordd Gristnogol, ac yn arestio dynion a merched, a'u taflu nhw i'r carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wu375?r a gwragedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a erlidiais y Ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a thraddodi i garcharau wyr a gwragedd hefyd,