Acts 22:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis ac y mae yr Archoffeiriat yn test ymy, a’r oll Henadurieth: y gan y’r ei hefyd y d erbyniais lythyrae at y broder, ac aethym i Damasco, y ðwyn yr ei oeðynt yno, yn rhwym i Gaerusalem, yw poeni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y mae’r archoffeiriad yn tystio i mi a’r holl henaduriaeth hefyd, gan y rhai wedi derbyn o honof lythyrau at y brodyr, ar y ffordd i Damascus yr oeddwn, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Ierwshalem, fel y cospid hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y tystiai i mi yr Archoffeiriaid a holl Gyngor yr henuriaid; oddiwrthynt hwy y derbyniais lythyrau at y brodyr yn Namascus, ac yr oeddwn ar y ffordd, i ddwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Gaersalem i’w cosbi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis ag y mae'r archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i'w cosbi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio i'r ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi i'w cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Roeddwn i'n mynd yno i arestio'r Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem i'w cosbi nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cydIddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod 'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
megys hefyd y mae yr Archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl Henaduriaeth: gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr oeddwn yn myned i Damascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerusalem, fel y cospid hwynt.