Acts 22:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ac e dderyw, val ydd oeddwn yn ymddeith ac yn dy nesay at Ddamasco yn‐cylch hanner dydd, pan oedd yn ðysymwth dyscleiriaw or nef ’olauni mawr om amgylch ogylch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A digwyddodd i mi ar fy ffordd, ac yn nesau at Damascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, o’r nef y disgleiriodd goleuni mawr o’m hamgylch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan oeddwn ar y ffordd ac yn dynesu at Ddamascus, tua chanol dydd yn sydyn fe fflachiodd o’r nef oleuni mawr o’m hamgylch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o'r nef ddisgleirio o'm hamgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar o'r nefoedd yn fflachio o'm cwmpas i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr dygwyddodd i mi wrth fyned a neshâu at Damascus ynghylch haner dydd, yn ddisymwth allan o'r nef dysglaeriodd goleuni tanbaid o'm hamgylch;