Acts 22:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntwy a’r oeddynt gyd a mi, a welsant yn wir y goleuni ac a ofnysont: eithyr ny chlywsant lef erydd y neb oedd yn ymleferydd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y rhai oedd gyda mi, y goleuni a welsant, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf ni ddeallasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gwelsant y goleuni, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf nis clywsant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai oedd gyda mi yn wir a welsant y Goleuni, ond llais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf ni chlywsant.