Acts 23:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
PAul yntae a edrychawdd yn ddyfri ar y Cyccor, ac a ddyvot, Ha wyr vroder, Mi a wasanaethais Dew ym‐pop cydwybot da yd y dydd hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan edrych yn graff o Paul ar y cynghor, dywedodd, Brodyr, myfi, a phob cydwybod dda y bu’m fyw ger bron Duw hyd y dydd heddyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syllodd Paul ar y Sanhedrin, a dywedodd, “A chydwybod gwbl dda y cyflewnais i fy neiliadaeth i Dduw hyd y dydd heddiw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Paul yn edrych ar aelodau'r Sanhedrin ac yn dweud, “Frodyr, dw i wedi gwasanaethu Duw gyda chydwybod glir, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syllodd Paul ar y Sanhedrin, ac meddai, "Frodyr, yr wyf fi wedi byw chydwybod ln gerbron Duw hyd y dydd hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phaul, gan edrych yn graff ar y Sanhedrin, a ddywedodd, O Wyr Frodyr, yr wyf fi wedi byw fel dinesydd i Dduw, mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd hwn.