Acts 23:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan g yv odes tervysc mawr, y pen Captaen, can ofny rac rhwygo Paul yn ddrylliae y ganthwynt, y ’orchymynawdd ir milwyr vynet i waeret, a’ ei ddwyn ef o ei plith wy, a’ei arwein ir castell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan mawr oedd y terfysg, y milwriad, gan ofni tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i’r llu, gan fyned i wared, ei gipio ef o’u plith, ac ei ddwyn ef i’r castell.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond a’r ymryson yn cynyddu’n fawr, ofnodd y capten rhag tynnu Paul yn ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i’r fintai filwyr fynd i lawr a’i gipio ef o’u plith hwynt, i’w ddwyn i’r castell.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r milwyr fyned i waered, a'i gipio ef o'u plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth pethau mor ddrwg nes bod y capten yn ofni y byddai Paul yn cael ei anafu yn eu canol nhw! Felly gorchmynnodd i'w filwyr fynd i lawr i'w achub o'u canol a mynd ag e yn ôl i'r barics.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth i'r ddadl boethi, daeth ofn ar y capten rhag i Paul gael ei dynnu'n ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i'r milwyr ddod i lawr i'w gipio ef o'u plith hwy, a mynd ag ef i'r pencadlys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A therfysg mawr wedi cyfodi, y Milwriad, yn ofni y tynid Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i'r llu fyned i waered, a'i gipio ef o'u canol hwynt, a'i ddwyn i'r Gwersyll‐dy.