Acts 23:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar nos hon nesaf y savawdd yr Arglwydd wrtho, ac a ddyvot, Bydd dda dy gyssir Paul: can ys me g is ac y testolaetheist am danaf yn‐Caerusalem, velly y byð dir yty ðwyn testolaeth hefyd am danaf yn Ruuein.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r nos ganlynol, gan sefyll gerllaw iddo, yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd hyderus, canys fel y tystiolaethaist am Danaf yn Ierwshalem, felly y mae rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r nos ddilynol safodd yr Arglwydd yn ei ymyl, a dywedodd, “Cymer galon! Canys fel y tystiolaethaist yn groyw amdanaf fi yng Nghaersalem, felly y mae’n rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno daeth yr Arglwydd at Paul a dweud wrtho, “Bydd yn ddewr! Mae'n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y noson honno, safodd yr Arglwydd yn ei ymyl, a dywedodd, "Cod dy galon! Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae'n rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r nos ganlynol, yr Arglwydd a safodd yn ei ymyl, a dywedodd, Ymgalonoga,; canys megys y tystiolaethaist am danaf i Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu hefyd i Rufain.