Acts 23:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y bot hi yn ddydd, ydd ymglasgawdd ’r ei or Iuddaeon, ac a gyf‐reithiesont, gan ddywedyt, na vwytaent ac na d yfent, y n y laddent Baul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan aeth hi yn ddydd, gan wneuthur bradwriaeth, yr Iwddewon a rwymasant eu hunain â diofryd gan ddywedyd na fwyttaent nac yfed hyd nes iddynt ladd Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ddaeth hi yn ddydd fe wnaeth yr Iddewon gynllwyn, ac ymddiofrydu gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent hyd nes lladd Paul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth hi yn ddydd, rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth yn ddydd, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn: aethant ar eu llw i beidio bwyta nac yfed dim nes y byddent wedi lladd Paul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan aeth hi yn ddydd, yr Iuddewon a wnaethant gytundeb, ac a rwymasant eu hunain drwy lw, gan ddywedyd na fwytaent ac nac yfent hyd nes y lladdent Paul.