Acts 23:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntwy a ddaethant ac yr Archoffeiriat ar Henafiait, ac a ddywed e sont, Ys darvu y ni ymgyf‐reithiaw a Raith, na vwytaem ddim, nes y ni ladd Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai wedi myned at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a ddywedasant, A diofryd y rhwymasom ein hunain nad archwaethwn ddim nes lladd o honom Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth y rhain at yr Archoffeiriaid a’r henuriaid, a dywedasant, “Ymddiofrydu ar lw a wnaethom na phrofem ddim hyd nes lladd Paul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n mynd at yr archoffeiriad a'r arweinwyr Iddewig a dweud wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi mynd ar lw i beidio bwyta dim byd nes byddwn ni wedi lladd Paul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant at y prif offeiriaid a'r henuriaid, a dweud, "Yr ydym wedi mynd ar ein llw mwyaf difrifol i beidio phrofi dim bwyd nes y byddwn wedi lladd Paul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cyfryw a ddaethant at yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Yr ydym wedi tynghedu ein hunain trwy lw nad archwaethwn ddim hyd nes y lladdem Paul.