Acts 23:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr owrhon gan hyny, arwyddocewch chvvy chwi a’r Cycor ir pen Capten, bod yddaw y ðwyn ef allan y vory atoch, mal petech ar veidr cahel gwybot ryw beth e yn yspysach y gantho: a’ ni neu, cyn nag y del ef yn agos, a vyddwn yn parawt y vv ladd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn awr, gan hyny, hyspyswch chwi i’r milwriad, ynghyda’r cynghor, am iddo ei ddwyn ef i wared attoch megis ar fedr cael gwybod yn fanylach y pethau yn ei gylch ef; a nyni, cyn nesau o hono, ydym barod i’w ladd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, felly, hysbyswch chwi ynghyd â’r Sanhedrin i’r capten, fel y dyco ef i lawr ger eich bron, fel pe baech ar fedr chwilio yn fanylach yn ei gylch; a ninnau, cyn iddo gyrraedd, parod ydym i’w ladd ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny hysbyswch gyda'r cyngor i'r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae arnon ni angen eich help chi. Gofynnwch i'r capten ddod ag e o flaen y Sanhedrin eto, gan esgus eich bod chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Gwnawn ni ymosod arno a'i ladd ar y ffordd yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhowch chwi, felly, ynghyd 'r Sanhedrin, rybudd yn awr i'r capten, iddo ddod ag ef i lawr atoch, ar yr esgus eich bod am ymchwilio yn fanylach i'w achos. Ac yr ydym ninnau yn barod i'w ladd ef cyn iddo gyrraedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr, gan hyny, gwnewch chwi ynghyd a'r Sanhedrin egluro i'r Milwriad, fel y dygo ef i waered atoch, fel pe buasech ar fedr cael gwybod yn gywirach y pethau yn ei gylch ef; a ninau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.