Acts 23:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan glybu nai vap chwaer i Paul y y cynllwyn, mynet a wnaeth ef, a’ dyvot y mewn ir castell, a’ manegy i Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o fab chwaer Paul y cynllwyn hwn, wedi dyfod a myned i mewn i’r castell, mynegodd i Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond fe glywodd mab chwaer Paul am y cynllwyn, ac fe aeth i’r castell, ac wedi iddo fynd i mewn fe’i mynegodd i Baul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond clywodd nai i Paul (mab ei chwaer) am y cynllwyn, ac aeth i'r barics i ddweud wrth Paul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe glywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i'r pencadlys, a mynd i mewn ac adrodd yr hanes wrth Paul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn, wedi cyrhaedd a myned i mewn i'r Gwersyll‐dy, efe a fynegodd i Paul.