Acts 23:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei cymerth, ac ei duc at y pen‐Captaen, ac a ddyvot, Paul y carcharawr am galwodd attaw, ac a ddysyfawdd arnaf ddwyn y gwr‐ieuanc hwn atat, can vot gantaw beth y ei adrodd wrthyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Efe, gan hyny, wedi ei gymmeryd ef, a’i dug at y milwriad, a dywedodd, Y carcharor Paul, wedi fy ngalw atto, a ofynodd i mi ddwyn y gŵr ieuangc hwn attat, yr hwn sydd a chanddo ryw beth i’w ddywedyd wrthyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly fe’i cymerth yntau ef, a’i ddwyn at y capten, ac eb ef, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofynnodd imi ddwyn y llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i cymerth ef, ac a'i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth hynny, ac esbonio i'r capten, “Paul y carcharor ofynnodd i mi ddod â'r bachgen yma atoch chi am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthoch chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cymerodd y canwriad ef, a mynd ag ef at y capten, ac meddai, "Galwodd y carcharor Paul fi, a gofyn imi ddod 'r llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthyt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe gan hyny a'i cymerodd ac a'i dyg at y Milwriad, ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ofynodd i mi ddwyn y gwr ieuangc hwn atat, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd wrthyt.