Acts 23:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y pen‐Captaen ei cymerth erbyn ei law, ac aeth ar‐gwrr ac ef or naillu, ac a ’ovynodd yddaw, Pa beth ’sy genyt y ei venegy y‐my?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a chilio o’r neilldu, y milwriad a ofynodd, Pa beth yw’r hyn sydd genyt i’w fynegi i mi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth y capten afael yn ei law, ac wedi iddo gilio o’r neilltu fe holodd, “Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pen‐capten a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w fynegi i mi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r capten yn gafael yn llaw'r bachgen, a mynd o'r neilltu a gofyn iddo, “Beth rwyt ti eisiau ei ddweud wrtho i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd y capten afael yn ei law, a mynd ag ef o'r neilltu a holi, "Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w ddweud wrthyf?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Milwriad a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth o'r neilldu, ac a ofynodd iddo yn ddirgel, Beth yw yr hyn sydd genyt i'w fynegu i mi?