Acts 23:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Yr Iuddeon a gydvwriesont ðeisyf y arnat, ðwyn Paul allan evory ir Cyccor, me g is petyn ar vedr ymofyn mwy o yspysrwydd am danaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd efe, Yr Iwddewon a gyttunasant i ofyn genyt y bo i ti yforu ddwyn i wared Paul i’r cynghor, megis ar fedr o honot ymofyn rhyw faint fanylach yn ei gylch ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddywedodd, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti am ddwyn Paul i lawr yfory i’r Sanhedrin, fel pe baut am holi yn fanylach yn ei gylch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r bachgen: “Mae'r Iddewon yn mynd i ofyn i chi fynd â Paul i sefyll o flaen y Sanhedrin eto fory, gan esgus eu bod eisiau ystyried ei achos yn fwy manwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau, "Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti fynd Paul i lawr yfory i'r Sanhedrin, ar yr esgus fod y rheini am holi yn fanylach yn ei gylch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Yr Iuddewon a gytunasant i ofyn i ti ddwyn Paul i waered yfory i'r Sanhedrin, fel pe baet ar fedr ymofyn yn gywirach yn ei gylch.