Acts 23:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr na wna di yn ei hol wy: can ys y mae o hanwynt yn y gynllwyn ef, mwy no dauugain‐wyr, yr ei a gyf‐reithiesant, na bai yðwynt na bwyta nac yfet, nes yddynt y ladd ef: ac yr awrhon yð ynt yn parawt, gan edrych am dy addewit ti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond na chymmer di dy berswadio ganddynt, canys cynllwyn iddo y mae rhai o honynt, mwy na deugeinwr, y rhai a rwymasant eu hunain â diofryd na fwyttaent nac yfed nes ei ladd ef: ac yn awr parod ydynt, yn disgwyl y gorchymyn genyt ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, na chydsynia di â hwynt, canys y mae gwŷr o’u plith, mwy na deugain, yn cynllwyn yn ei erbyn; ymddiofrydu a wnaeth y rhain na fwytaent ac nad yfent hyd nes ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am yr addewid oddiwrthyt ti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rhaid i chi beidio. Mae yna dros bedwar deg o ddynion yn cuddio ar y ffordd, yn barod i ymosod arno. Maen nhw wedi cymryd llw i beidio bwyta nac yfed nes byddan nhw wedi lladd Paul. Maen nhw'n barod, yn disgwyl i chi gytuno i'r cais.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, paid gwrando arnynt, oherwydd y mae mwy na deugain o'u dynion yn aros i ymosod arno; y maent wedi mynd ar eu llw i beidio bwyta nac yfed nes y byddant wedi ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am dy ganiatd di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny na pherswadier di ganddynt, canys y mae yn cynllwyn yn ei erbyn fwy na deugain gwr o honynt, yn gyfryw ag a rwymasant eu hunain drwy lw na fwytaent, nac yfent nes ei ladd: ac yn awr y maent yn barod, gan ddisgwyl am yr addewid oddiwrthyt.