Acts 23:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y pen‐Captaen a ollyngawdd ymaith y gwr‐ieuanc, ac a ’orchymynawdd yddaw na venagei y neb, ddangos o hanaw cyfryw pethae wrthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y milwriad, gan hyny, a ollyngodd ymaith y gŵr ieuangc, wedi gorchymyn iddo beidio a dweud i neb yr hyspysaist y pethau hyn i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gollyngodd y capten, felly, y llanc ifanc, gan orchymyn, “Na ddywed wrth neb iti hysbysu’r pethau hyn i mi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Paid sôn wrth neb dy fod ti wedi dweud wrtho i am hyn,” meddai'r capten wrth iddo anfon y bachgen i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd y capten y llanc ymaith, ar l gorchymyn iddo, "Paid dweud wrth neb dy fod wedi rhoi gwybod imi am hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y Milwriad gan hyny a ollyngodd ymaith y gwr ieuangc, wedi gorchymyn na ddywedai i neb i ti hyspysu y pethau hyn i mi.