Acts 23:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth ddal ha y gwr hwn gan yr Iuddaeon, ac a’ hwy ar vedr ei ladd, ydaethym arnynt a llu, ac y achupais ef, can wybot mae Ruueinwr yt oedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y dyn hwn, wedi ei ddal gan yr Iwddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, wedi dyfod arnynt â’r llu, a gymmerais oddi arnynt, wedi deall mai Rhufeiniad ydyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda’r fintai ac achubais ef, wedi deall mai Rhufeiniwr oedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â'i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dyn yma wedi ei ddal gan yr Iddewon, ac roedden nhw ar fin ei ladd. Ond ar ôl deall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig dyma fi'n mynd â'm milwyr i'w achub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliwyd y dyn hwn gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin cael ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda'm milwyr ac achubais ef, wedi imi ddeall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gwr hwn wedi ei ddal gan yr Iuddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, a achubais i, gan ddyfod ar eu gwarthaf gyda llu, wedi dysgu mai Rhufeiniwr oedd.