Acts 23:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan oeddwn yn ewyllysiaw gwybot yr achos, y cuhaddesent ef, y dugais ef at y Cyccor hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan chwennych gwybod yr achos o’r hwn y cyhuddent ef, dygais ef wared i’w cynghor.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a mi’n ewyllysio cael gwybod yr achos eu bod yn achwyn arno, dygais ef i lawr ger bron eu Sanhedrin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dygais ef i waered i'w cyngor hwynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan fy mod eisiau deall beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn, dyma fi'n mynd ag e i sefyll o flaen y Sanhedrin Iddewig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fy mod yn awyddus i gael gwybod pam yr oeddent yn ei gyhuddo, euthum ag ef i lawr gerbron eu Sanhedrin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ewyllysio gwybod yr achos ar gyfrif yr hwn y cyhuddent ef, mi a'i dygais ef i waered i'w Sanhedrin hwynt.