Acts 23:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deellais mae ei guhuddaw a wnaethit am gwestionae o y Deddyf hwy, ac nid oedd arnaw vn caredd teilwng a angae, n ai rrwymae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chefais y cyhuddid ef am gwestiynnau o’u Cyfraith, ond heb ddim cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chefais yr achwynid arno ynghylch cwestiynau eu cyfraith hwynt, ond nad oedd dim cwyn arno a haeddai farwolaeth neu garchar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth yn amlwg fod gan y cwbl rywbeth i'w wneud â'r ffordd iawn o ddehongli eu Cyfraith nhw — doedd e'n sicr ddim yn haeddu ei ddienyddio, na hyd yn oed ei garcharu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynglu375?n materion dadleuol yn eu Cyfraith hwy, ond nad oedd yn wynebu cyhuddiad oedd yn haeddu marwolaeth neu garchar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynghylch cwestiynau o'u Cyfraith hwy, heb un cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau.