Acts 23:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Paul wrthaw, Eath dery Dew dy di, baret gwynlliw. A’ thi a eisteddy im barny i yn ol y Ddeddyf, ac a ’orchymynny vy‐taro yn erbyn y Ddeddyf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna Paul a ddywedodd wrtho ef, Dy daro di a wnaiff Duw, bared wedi ei wyn-galchu! Ac a wyt ti yn eistedd i’m barnu yn ol y Gyfraith, a chan droseddu’r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna fe ddywedodd Paul wrtho, “Dy daro dithau a wna Duw, di bared wedi ei wyngalchu. A wyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y gyfraith, ac eto gan dorri’r gyfraith yn gorchymyn fy nharo?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu'r ddeddf yn peri fy nharo i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Paul yn ymateb trwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra'n torri'r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Paul wrtho, "Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn l y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd ar fedr dy daro di, bared wedi ei wyn‐galchu: ac a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y Gyfraith, a chan droseddu'r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i?