Acts 23:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dangos y mi, mal yr oedd yr Iuddaeon yn cynllwyn y gwr, yn ebrwyð y danvoneis ef atat, ac ’orchymyneis y dd ei guhuddwyr ddywedyt ger dy vron di y pethae oedd ganthvvynt yn ei erbyn. Does yn iach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan hyspyswyd i mi gynllwyn i’r gŵr, ar fedr ei wneud, allan o law danfonais ef attat, wedi gorchymyn i’r cyhuddwyr hefyd ddywedyd yn ei erbyn ger dy fron. Bydd iach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan yr hysbyswyd i mi fod cynllwyn i fod yn erbyn y gŵr, yr wyf fi yn ei anfon atat ti ar unwaith, wedi gorchymyn i’w gyhuddwyr hwythau draethu yn ei erbyn ger dy fron di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn ces wybodaeth fod cynllwyn ar y gweill i'w ladd, felly dyma fi'n ei anfon atoch chi ar unwaith. Dw i wedi dweud wrth y rhai sy'n ei gyhuddo am fynd â'u hachos atoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan imi gael ar ddeall y byddai cynllwyn yn erbyn y dyn, yr wyf fi ar unwaith yn ei anfon atat ti, wedi gorchymyn i'w gyhuddwyr hefyd gyflwyno ger dy fron di eu hachos yn ei erbyn ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan hyspyswyd i mi fod cynllwyn yn erbyn y gwr, allan o law danfonais ef atat ti, gan erchi i'w gyhuddwyr ef hefyd i lefaru yn ei erbyn ger dy fron di.