Acts 23:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
mi ath wrandawaf, eb yr ef, pan ddel hefyd dy guhuddwyr: ac a ’orchymynawdd ei gadw yn‐dadlaudy Herod.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwrandawaf di, ebr efe, pan fo dy gyhuddwyr yn bresennol; wedi gorchymyn mai yn llys Herod y cedwid ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eb ef, “Mi wrandawaf dy achos, pan ddêl dy gyhuddwyr hwythau.” A gorchmynnodd ei gadw ef ym mhlasty Herod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
meddai, “Gwna i wrando ar dy achos di pan fydd y rhai sy'n dy gyhuddo di wedi cyrraedd.” Yna gorchmynnodd fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa ym mhencadlys Herod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd, "Gwrandawaf dy achos pan fydd dy gyhuddwyr hefyd wedi cyrraedd." A gorchmynnodd ei gadw dan warchodaeth yn Praetoriwm Herod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a'th wrandawaf trwodd, eb efe, pan gyrhaeddo dy gyhuddwyr hefyd, gan orchymyn ar ei gadw yn mhalasdy swyddogol Herod.